Contact us

cysylltwch

Ffurfiwyd grŵp Darganfod Dolgellau o ganlyniad i gyfarfod cyhoeddus a drefnwyd gan Tŷ Siamas ym mis Tachwedd 2006. Cynigiodd busnesau lleol ddatblygu grŵp cydfarchnata ac aethant ati i ffurfio pwyllgor llywio.

Mae'r grŵp wedi mabwysiadu'r enw 'DARGANFOD DOLGELLAU' neu 'DISCOVER DOLGELLAU' a bu'n gweithio i ddenu cyllid a sefydlu'r grŵp fel uned o bobl ymroddedig, cyn mynd ati i'w lansio'i hun yn cyhoeddus a denu aelodau eraill o'r gymuned fusnes. Mae croeso i fusnesau lleol ymuno â'r grŵp ac mae'r aelodau presennol yn cynnwys Ffynnon, Tŷ Siamas, Tŷ Seren, Waterloo, Bythynnod Maes yr Helmau, Bythynnod Torrent Walk, llety Dolgun Uchaf a Cader View, Graig Wen yn Arthog a llety gwely a brecwast Coed Cae/Snowbikers yn Nhaicynhaeaf.

Mae'r grŵp yn un o is-bwyllgorau Partneriaeth Dolgellau ac felly mae'n cael cefnogaeth y gwahanol fudiadau sy'n rhan o'r Bartneriaeth.

Mae cyfansoddiad y grŵp yn nodi'r datganiad o fwriad fel hyn:

"Nod Darganfod Dolgellau yw sefydlu a hyrwyddo Dolgellau fel cyrchfan o ddewis yng nghalon Cymru, ac felly gynyddu cyfleoedd am incwm i fusnesau yn y diwydiant twristiaeth a diwydiannau cysylltiedig yn ardal Dolgellau."

Bydd Darganfod Dolgellau yn:
• hyrwyddo pobl, busnesau ac atyniadau tref Dolgellau a'r cylch i gynulleidfa fyd-eang.
• denu mwy o ymwelwyr/wariant ymwelwyr i Ddolgellau a'r cylch drwy greu a hybu brand arbennig er mwyn apelio at ein marchnadoedd targed.

Hyd yn hyn mae'r grŵp wedi:

• denu cyllid a chefnogaeth o wahanol ffynhonellau, gan gynnwys Cyngor Tref Dolgellau, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth a busnesau lleol.
• comisiynu ymchwil i ganfod beth yw anghenion ymwelwyr â'r dref ac i flaenoriaethu ein prosiectau.
• sefydlu a dechrau hyrwyddo gwefan sy'n:
   - hyrwyddo atyniadau Dolgellau a'r cylch i'n marchnadoedd ymwelwyr
   - darparu gwybodaeth leol ar gyfer trigolion, ymwelwyr a buddsoddwyr posib
• creu tywyslyfr ar gyfer ardal Dolgellau er mwyn ei ddosbarthu a'i werthu mewn mannau penodol yn yr ardal.

Mae cynlluniau pellach, yn dibynnu ar yr arian fydd ar gael, yn cynnwys gwella arwyddion a phodlediad.

Aelodaeth flynyddol
Cost: £50 y flwyddyn
Yn cynnwys:
    - Cofnod amlycach ar y wefan
    - 50 o fapiau Darganfod Dolgellau
    - Cyfle i gael sylw gan y cyfryngau trwy Press4Travel
Os hoffech gymryd rhan yn y gweithgareddau, rydym yn cynnal cyfarfodydd misol i drafod y prosiectau rydym yn gweithio arnynt ar hyn o bryd ac i benderfynu ar brosiectau'r dyfodol. Croeso i bob aelod.

Cofnod amlycach ar y wefan (i rai nad ydynt yn aelod)
Cost: £30 y flwyddyn
Yn cynnwys:
    - Tudalen lawn ar y wefan i ddisgrifio'ch busnes gan gynnwys ffotograffau.

Os hoffech hysbysebu'ch busnes neu'ch clwb ar wefan Darganfod Dolgellau, gallwch wneud hynny AM DDIM! Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw cofrestru. Yna cewch ychwanegu'r wybodaeth o dudalen eich cyfrif. Neu, os hoffech i ni roi sylw i ryw ddigwyddiad lleol neu os hoffech gysylltu â ni am ryw reswm, cliciwch yma.

Os hoffech dderbyn cylchlythyr achlysurol yn sôn am bethau sy'n digwydd yn yr ardal a chynigion arbennig, llanwch y manylion isod a chlicio ar "tanysgrifio".

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr Darganfod Dolgellau
Rhowch eich manylion isod.
Enw cyntaf: 
Enw Olaf: 
E-bost: 



I hysbysebu yma cysylltwch