Discover Dolgellau - the gateway to Southern Snowdonia

dewch i ddarganfod...

...tref fynyddig a dyfodd o gwmpas y diwydiant gwlân ac a warchodir gan gewri chwedlonol, lle mae gwarchodwyr y brenin yn sefyll yn dalsyth a dafnau aur yn yr afonydd sy'n llifo tua'r môr .... tref ac iddi hanes cyfoethog a chwedloniaeth hudolus.

Cewch fwynhau golygfeydd trawiadol o'r dref sy'n ganolfan ddelfrydol ar gyfer crwydro Parc Cenedlaethol Eryri a mynyddoedd Cambria: ar droed ar hyd hen ffyrdd y porthmyn; ar gefn beic ar lwybrau'r hen drenau llechi a llwybrau beicio mynydd pwrpasol; ac ar gefn ceffyl ar hyd milltiroedd o draethau euraid.

Cewch ddotio at raeadrau mewn coedwigoedd, nosweithiau serog, clir a synau cefn gwlad yn llenwi'r awyr.

Dewch i ddarganfod Dolgellau...



I hysbysebu yma cysylltwch