gair andanom ni
Ceir dros 200 o adeiladau rhestredig yn hen dref farchnad Dolgellau, mwy nag mewn unrhyw dref arall o'i maint yng Nghymru yn ôl y sôn.
Mae peth ansicrwydd am ystyr yr enw Dolgellau. Mae'n bosib ei fod yn dod o'r gair dôl ac yna celli sy'n golygu "llwyn o goed" neu "goedlan" neu cellau a all gyfeirio at gelloedd mynachod neu stondinau marchnad.
Yn y gorffennol, Dolgellau oedd prif dref Sir Feirionnydd ond erbyn hyn mae'n rhan o sir fawr Gwynedd. Mae wrth droed mynydd Cader Idris, ar lan afon Wnion sy'n un o is-afonydd Mawddach, ac mae'r dref wedi'i hefeillio â Guerande yn Llydaw.
Caer hanesyddol
Roedd yr ardal lle mae Dolgellau yn awr yn rhan o diroedd llwyth yr Ordoficiaid a gafodd eu trechu gan y Rhufeiniaid yn OC77-78. Yn ddiweddar, cafwyd tystiolaeth bod caer fawr o'r cyfnod hwnnw uwchlaw'r dref. Ym 1198, sefydlwyd Abaty Cymer gerllaw ac fe godwyd eglwys yn Nolgellau tua'r un pryd. Mae adfeilion bwâu mawr yr Abaty i'w gweld o hyd mewn llecyn heddychlon ger Llanelltyd. Erbyn 1404, roedd Dolgellau'n cael ei chyfrif yn ddigon pwysig i Owain Glyndŵr – y Cymro olaf i fod yn Dywysog Cymru – gynnal senedd yno yn ystod y gwrthryfel yn erbyn Coron Lloegr.
Pererindota
Mae i Ddolgellau le pwysig yn hanes y Crynwyr – fel y gwelir ar Daith y Crynwyr. Gan eu bod yn cael eu herlid yn yr ardal hon, ymfudodd criw o Grynwyr o'r dref i Pennsylvania ym 1686. Galwyd tref ym Mhennsylvania yn Bryn Mawr ar ôl fferm ger Dolgellau a oedd yn eiddo i'w harweinydd, Rowland Ellis.
Hyd heddiw, mae llawer o Grynwyr o America yn dod ar bererindod i Ddolgellau i chwilio am eu 'gwreiddiau'.
Gorffennol diwyd
Yn y 18fed ganrif, roedd gwlân bras defaid y bryniau ger Dolgellau'n cael ei ddefnyddio i wneud 'gweoedd' i'w hallforio – ceir olion y diwydiant hwn yn llawer o adeiladau rhestredig y dref. Roedd llongau mawr yn gallu hwylio i fyny aber afon Mawddach ar y pryd a byddai byrnau gwlân yn cael eu llwytho o Gei'r Marian i'w hallforio i'r Byd Newydd. Erbyn diwedd y 18fed ganrif, amcangyfrifid bod y fasnach wlân yn werth cymaint â £100,000 y flwyddyn i'r economi lleol.
Roedd y diwydiant trin lledr yn bwysig i'r dref hefyd tan y 1980au. Gwaetha'r modd, roedd y gwaith hwn yn gallu bod yn ddrewllyd a rhyw 30 mlynedd yn ôl roedd arwyddion i'w gweld ar ddrysau siopau yn dweud 'Nid ein siop ni sy'n drewi'. Mae'n dda dweud mai'r unig aroglau a glywir erbyn hyn yw aroglau mwg tanau coed yn y gaeaf!
Bu Rhuthr fechan am aur yn Nolgellau tua chanol y 19eg ganrif. Ar un cyfnod, roedd mwyngloddiau aur yr ardal yn cyflogi dros 500 o weithwyr. Ni pharodd y cyffro'n hir oherwydd ychydig o aur oedd yna ac nid oedd yn talu'r ffordd i'w gloddio. Mae ychydig bach o aur pur Cymreig ar ôl yn y bryniau. Aur o fwynglawdd Clogau sydd wedi bod yn cael ei ddefnyddio i wneud modrwyau priodas y teulu brenhinol.
Presennol heddychlon a chynhyrchiol
Heddiw, mae Dolgellau'n lle braf a chyfeillgar ynghanol harddwch Eryri. Mae'n dal yn dref brysur sy'n gwasanaethu'r ardaloedd amaethyddol o'i hamgylch. Mae ymweld â'r mart wythnosol yn ffordd ardderchog o gael blas ar fywyd cefn gwlad Cymru. Ar drydydd Sul y mis, mae cyfle i brynu pob math o fwydydd a chrefftau lleol yn y Farchnad Ffermwyr yng nghanol y dref.