The experience starts here...

lle'r ydym ni

Mae Dolgellau yn rhan ddeheuol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae wrth droed Cader Idris, mynydd mwyaf mawreddog de Eryri, ac mae'n edrych i lawr aber hardd Mawddach. Mae Dolgellau yn gyfleus i dde a gogledd Cymru, rhyw awr dda o Gaernarfon a thair awr o Gaerdydd. Gallwch ddod yma ar fws neu drên.

O'r De
Os ydych yn teithio o'r de, mae'r A470 yn daith hardd sy'n mynd â chi'r holl ffordd o Gaerdydd i Ddolgellau, yn cynnwys golygfeydd trawiadol Dyffryn Gwy. Neu, os dymunwch, gallwch droi oddi ar yr A470 yn Llanidloes gan ddilyn y B4518 heibio i Lyn Clywedog, i Fachynlleth ac oddi yno i Ddolgellau. Mae'r ffordd hon yn mynd â chi dros Fynyddoedd Cambria lle cewch olygfeydd panoramig o Eryri.

O'r Gogledd
Mae'r A494 o Gaer yn mynd â chi trwy Ddyffryn Clwyd i'r Bala, gan arwain o ddyffrynnoedd llydan, ir i fynyddoedd creigiog Gwynedd.

O'r Dwyrain
Cewch ddilyn yr A458 trwy'r Trallwng a Llanfair Caereinion i ymuno â'r A470 ym Mallwyd. Beth am aros yng ngolygfan y Bwlch i fwynhau'r olygfa o Gader Idris – neu ryfeddu at jetiau RAF Fali'n hedfan oddi tanoch.

Ar y trên – Mae'r rheilffordd o'r Amwythig yn torri trwy'r bryniau ac yna'n dilyn y glannau am gyflwyniad hardd – a gwyrdd – i'r ardal. Does dim gorsaf reilffordd yn Nolgellau ond mae bysus yn rhedeg o orsaf y Friog (7 milltir i ffwrdd) neu gallech fwynhau beicio'r 6 milltir dymunol ar hyd Llwybr Mawddach o orsaf drenau Morfa Mawddach. Fel arall, gallech adael y trên ym Machynlleth a dal y bws i Ddolgellau trwy fwlch trawiadol Tal-y-llyn.

Sut bynnag y dewch, gall Cynlluniwr Teithiau'r RAC eich helpu i drefnu'ch taith.