The experience starts here...

pwy ydym ni

Erbyn heddiw, mae pobl Dolgellau'n dilyn pob math o alwedigaethau. Yn eu plith mae cynhyrchwyr bwyd, coedwigwyr, siopwyr, ffermwyr defaid, artistiaid a phobl sydd wedi dianc o ruthr y ddinas.

Ond pwy oedd ein cyndeidiau – y bobl a osododd sylfeini ein diwylliant?

Cymraeg
Mae'r iaith Gymraeg i'w chlywed ym mhob man yn ardal Dolgellau. Mae tua hanner miliwn o bobl yn siarad Cymraeg yng Nghymru a rhai cannoedd o filoedd yn Lloegr a thramor. Credir bod y Cymry'n ddisgynyddion y Galatiaid yr ysgrifennodd yr Apostol Paul lythyr atynt. Mae'r Gymraeg yn un o'r teulu o ieithoedd Celtaidd sydd wedi'u rhannu'n Wyddeleg, Gaeleg yr Alban a Manaweg ar y naill law a'r Gymraeg, y Llydaweg a'r Gernyweg ar y llaw arall.

Bardd neu orffwyll
Mae llu o chwedlau'n gysylltiedig â Chader Idris – y mynydd mawr sy'n tyrru uwchben Dolgellau. Yn ôl y sôn, mae nifer o lynnoedd yr ardal yn byllau diwaelod a dywedir bod y sawl sy'n cysgu ar gopa Cader Idris yn deffro'n wallgof neu'n fardd!

Cewri a gwrthryfelwyr
Yn ôl y chwedl, cawr o'r enw Idris oedd yn arfer eistedd ar y Gader. Dywedir ei fod yn fardd, yn seryddwr ac yn athronydd medrus.

Cyn dyfodiad y Rhufeiniaid, llwyth yr Ordoficiaid oedd yn byw yn yr ardal ac mae eu bryngaerau'n dal i ddod i'r golwg. Mae'n bosib bod y gair Ordoficiaid yn golygu "pobl yn ymladd â morthwyl"! Mae'r "ord" yn perthyn i'r gair Cymraeg "gordd". Ym 1404, dywedir mai yn Nolgellau y cynhaliodd y gwrthryfelwr Owain Glyndŵr ei senedd olaf.

Gwylliaid a mwyngloddwyr
Ciwed o ladron o ardal Dinas Mawddwy yn yr 16eg ganrif oedd Gwylliaid Cochion Mawddwy. Mae llawer o sôn amdanynt mewn llên gwerin ac, yn ôl y sôn, roeddent yn ymosod ar deithwyr oedd yn dod trwy'r bwlch yn y mynydd.

Bu rhuthr am aur yn ardal Dolgellau am gyfnod byr yn y 19eg ganrif. Roedd dros 500 o bobl yn gweithio ym mwyngloddiau aur yr ardal a defnyddiwyd aur o waith Clogau ger y Bont-ddu i wneud modrwyau ar gyfer sawl priodas frenhinol.

Crynwyr a gweithwyr gwlân
O ganlyniad i ymweliad gan George Fox ym 1657, trodd llawer o bobl Dolgellau'n Grynwyr. Gan eu bod yn cael eu herlid, ymfudodd llawer ohonynt i Pennsylvania ym 1686, o dan arweiniad Rowland Ellis, bonheddwr o ffermwr lleol. Beth am ddilyn Taith y Crynwyr o gwmpas Dolgellau i ddysgu mwy?

Erbyn diwedd y 18fed ganrif, y diwydiannau gwlân a thrin lledr oedd yn cynnal economi'r ardal.

Chwarelwyr a chwaraewyr
Yn ystod y 19eg ganrif, roedd llechi o'r bryniau o gwmpas Dolgellau'n cael eu hallforio i doi adeiladau ym mhedwar ban byd.

Credir mai Clwb Criced Dolgellau, a ffurfiwyd ym 1869, yw'r clwb criced hynaf yng Nghymru. Erbyn heddiw, mae nifer fawr o glybiau chwaraeon llwyddiannus gyda chanolfannau chwaraeon da a digon i'w wneud.

Beirdd a Cherddorion
Mae Dolgellau wedi bod yn cynnal gŵyl awyr-agored y Sesiwn Fawr, gyda cherddorion o Gymru a'r tu hwnt, bob mis Gorffennaf. Ni fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal eleni ond mae cynlluniau ar y gweill I’w gynnal mewn ffurf newydd yn 2010. Ar y sgwâr yn Nolgellau mae Tŷ Siamas, sef Canolfan Genedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth Cymru. Cynhelir gigiau a sesiynau jamio yno a chewch weld arddangosfa ryngweithiol hanes datblygiad cerddoriaeth. Mae dau gôr yn y dref, Côr Meibion Dolgellau a Chôr Idris, sy'n gôr cymysg.

Cyfeiriodd beirdd Rhamantaidd fel Wordsworth a Coleridge at yr ardal yn eu gwaith. Yn ddiweddarach, mae awduron lleol wedi gwneud eu marc, fel John Elwyn Jones, athro wedi ymddeol sydd wedi ysgrifennu am ei fagwraeth yn yr ardal mewn llyfr o'r enw Yn fy Ffordd fy Hun ac wedi sôn am ei gyfnod yn Garcharor Rhyfel yng Ngwlad Pwyl yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'r awduron modern Bethan Gwanas a Nia Medi yn byw yn y cylch ar hyn o bryd. Roedd y nofelydd Marion Eames, a fu farw yn 2007, yn byw yn y dref. Mae ei nofel fwyaf adnabyddus, Y Stafell Ddirgel, yn sôn am yr erlid a fu ar y Crynwyr yn ardal Dolgellau a phenderfyniad nifer ohonynt i ymfudo i Pennsylvania ym 1686. Addaswyd Y Stafell Ddirgel a'i nofel ddilynol, Rhandir Mwyn, ar gyfer y teledu gan y BBC, yn fuan ar ôl eu cyhoeddi.