archwilio...
...Dolgellau, aber afon Mawddach, a llynnoedd, traethau a mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri.
Dewch i hamddena neu i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr-agored cyffrous.
Dewch i nabod tref sydd â thros 200 o adeiladau rhestredig ynghanol bryniau â rhwydwiath eang o lwybrau cyhoeddus ac olion hen gymunedau yma a thraw. Rŷch chi'r un mor debygol o ddod ar draws maen hir neu chwarel lechi â chorlan ddefaid.
Dewch i grwydro dyffrynnoedd, coedwigoedd a thraethau lle ceir gwarchodfeydd natur ac amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt. Efallai, os gwyddoch lle i edrych ac os byddwch yn lwcus, y gwelwch ddyfrgwn, hebogiaid tramor a dolffiniaid.
Dewch i nabod ardal Dolgellau…
Ymhlith yr atyniadau yng nghylch Dolgellau mae:
- Cader Idris – mynydd mawreddog sydd â llwybrau ar gyfer mynyddwyr abl a rhai ar gyfer pobl lai profiadol
- Coed-y-Brenin - un o'r prif ganolfannau beicio mynydd yn Ewrop
- Llwybr Mawddach – llwybr seiclo 10 milltir sy'n addas i deuluoedd, ar hyd hen reilffordd o Ddolgellau gan groesi pont hardd ac enwog y Bermo
- Tŷ Siamas – canolfan genedlaethol newydd i ddathlu cerddoriaeth werin Cymru, gyda siop a chaffi braf
- Portmeirion – pentref arbennig a gynlluniwyd gan Clough Williams-Ellis mewn arddull Eidalaidd. Yma y ffilmiwyd y gyfres deledu gwlt o'r chwedegau, “The Prisoner”. Ŵyr Clough Williams-Ellis, yr awdur Robin Llywelyn, yw'r rheolwr gyfarwyddwr presennol
- Castell Harlech – castell mawreddog Edward I a Safle Treftadaeth Byd
- Y Ganolfan Dechnoleg Amgen – prif eco-ganolfan Ewrop
- Lein fach enwog Rheilffordd Ffestiniog a threnau stêm eraill fel rhai Tal-y-llyn, y Friog, Corris a Llyn Tegid ger y Bala
- Labyrinth y Brenin Arthur – teithiwch ar gwch i’r ogofâu tanddaearol eang a mwynhewch hanesion y Brenin Arthur a chwedlau Cymreig hynafol eraill
- Canolfan Grefftau Corris – 10 Gweithdy Crefft yn llawn o eitemau sydd wedi’u gwneud â llaw ar gyfer eich cartref, gardd, ac anrhegion i eraill
- Chwilotwyr Cloddfa Corris – Cyfle prin i archwilio gweithfeydd hen chwarel lechi Gymreig a adawyd
- Traethau - euraid y Faner Las – yn y Friog a'r Bermo