Explore Southern Snowdonia

y môr a'i donnau

The beaches in the Dolgellau area are some of the most stunning in Wales Os ydych am gael gwyliau traddodiadol ar lan y môr, does dim lle gwell na thraeth tywodlyd eang y Bermo, sydd wedi ennill Baner Las. Mae'r traeth yn cael ei oruchwylio yn ystod Gorffennaf ac Awst ac mae 'na le arbennig ar gyfer jet-sgio a chychod cyflym.

Os ydych am ymarfer eich sgiliau syrffio-barcud, mae 'na draethau hir, tawel tua'r gogledd i gyfeiriad Porthmadog a thua'r de i gyfeiriad Tywyn.

Yn achlysurol ac am gyfnodau byr, gallwch fwynhau syrffio oddi ar draeth y Bermo. Mae'r tonnau'n tueddu i fod yn fwy ac yn well, i gyfeiriad Tal-y-bont i'r gogledd. Mae llawer o syrffwyr yn mynd i Dywyn, lle mae 'na draeth hir, syth, heb greigiau, sy'n ei wneud yn lle eithaf diogel. Gall syrffwyr profiadol ystyried mynd i Lwyngwril, sydd ar ddarn hardd o'r glannau, rhwng y Bermo a Thywyn. Mae'r tonnau'n dda ond ceir yno gerrig mawr sy'n gallu ei gwneud yn beryglus. Dim ond ar gyfer syrffwyr profiadol y mae'n addas.

Mae pobl leol yn hoffi mynd i draeth tawel Benar oddi ar yr A496 yn Nhal-y-bont ac i draeth prysurach y Friog yr ochr draw i aber afon Mawddach. Mae plant wrth eu bodd â thrên stêm y Friog.