gwylio adar
Mae gwarchodfa Coed Garth Gell yr RSPB yn y bryniau i'r gogledd o bont Llynpenmaen ar aber afon Mawddach. Yn y gwanwyn, gallwch glywed y gwybedog brith, telor y coed a'r tingoch yn y coedydd collddail ac mae cigfrain a bwncathod yn aros yn yr ardal trwy'r flwyddyn. Mae yno dro cylch dymunol, 3½ milltir trwy goedydd derw a phrysgwydd, sy'n defnyddio rhai o hen dramffyrdd y mwyngloddiau. Mae gwarchodfa arall, Cors Arthog, rhwng Arthog a'r Friog. Mae'r llwybr o faes parcio gorsaf drenau Morfa Mawddach yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn.
Am fwy o wybodaeth ar warchodfeydd RSPB edrychwch ar eu gwefan.