Explore Southern Snowdonia

dringo ac abseilio

Climbing on the slabs at Barmouth Byddwch yn rhyfeddu cynifer o lwybrau dringo sydd ym mryniau a mynyddoedd ardal Dolgellau – rhai'n addas ar gyfer dechreuwyr ac eraill yn gofyn am gryn brofiad a medrusrwydd.

Gall dechreuwyr fanteisio ar ddringfeydd sydd â rhaffau sefydlog o'u brig, fel y rhai ar Slabiau'r Bermo (OS grid 618 165) yn edrych i lawr dros aber Mawddach. Grwpiau gweithgareddau antur sy'n dod yma yn bennaf gan fod y dringfeydd yn addas ar gyfer pobl sy'n dringo am y tro cyntaf o dan oruchwyliaeth hyfforddwr profiadol. Mae modd trefnu sesiynau abseilio hawdd hefyd, gyda goruchwyliaeth addas.

Gan fod Cader Idris gerllaw, mae nifer o ddringfeydd aml-ran ar gael, y rhan fwyaf ar glogwyni Cyfrwy (grid AO 703 135) ar ochr ogleddol y mynydd a Chraig Cau (grid AO 712 122) i'r de. Mae Crib Cyfrwy yn ddringfa hynod boblogaidd ac mae'n un o'r hawsaf ar ochr ogleddol y Gader.

Ceir nifer o ddringfeydd diddorol ar Graig Cywarch (grid AO 843 186), sy'n graig anghysbell ar fynydd Aran Fawddwy, nid nepell o Ddolgellau i gyfeiriad Dinas Mawddwy.

Gallwch deithio'n hwylus o Ddolgellau i nifer o ganolfannau dringo eraill (Tremadog, a mynyddoedd y Moelwyn ger Blaenau Ffestiniog). Mae gwybodaeth, arweinlyfrau ac offer i'w cael o Cader Idris Outdoor Gear, Sgwâr Eldon, Dolgellau (01341 422195).