Explore Southern Snowdonia

helfa geo-gelcio

Geocaching - a modern take on 'hide and seek' Rhyw gyfuniad o gyfeiriannu a helfa drysor yw helfa geo-gelcio (geocaching) – gêm ddifyr ac anturus ar gyfer defnyddwyr GPS. Mae'r helfeydd yn ffordd dda o ddod i nabod ardal, a chael y pleser o ddefnyddio uned GPS. Cynhelir yr helfeydd ym mhedwar ban byd gan unigolion a sefydliadau ac, ar eu symlaf, dydyn nhw'n ddim ond llyfr ymwelwyr. Mae'r lleoliadau'n cael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd ac mae pobl yn defnyddio'u hunedau GPS i ddod o hyd i'r 'celc'. Mae rhagor o wybodaeth a rhestr o'r helfeydd yn ardal Dolgellau i'w gweld yma.