Explore Southern Snowdonia

beicio mynydd

Enjoy cycling around Dolgellau and the Mawddach trail or at one of the many trails at Coed y Brenin Mae beicio mynydd yn weithgaredd cymharol newydd ond mae wedi ennill ei blwyf yn sydyn iawn.

Gall dechreuwyr ddilyn cwrs beicio mynydd i ddysgu'r medrau sylfaenol cyn cychwyn ar un o lwybrau penodedig yr ardal. Mae llwybrau beicio mynydd pwrpasol Coed y Brenin o fewn 7 milltir, 10 munud mewn car, o Ddolgellau, a llwybr Cli-machx yng Nghorris (10 milltir/15 munud i ffwrdd). Mae llwybrau Mach 1-3 ym Machynlleth (20 milltir/hanner awr); llwybr Marin yn Llanrwst (36 milltir/50 munud) a Nant yr Arian (40 milltir/1 awr). Cewch ragor o fanylion am y datblygiadau hyn ar wefan Mountain Biking Wales. Os mai chwilio am rywle tawel, heb lawer o bobl ydych chi, gall arweinwyr beicio mynydd yr ardal ddangos cyfoeth o fannau dirgel i chi.

Mae mapiau unigol o lwybrau seiclo ardal Coed y Brenin i'w gweld isod gyda chanllaw cynhwysfawr i'r holl lwybrau a gwybdoaeth am lwybrau seiclo eraill yn y cylch.

Llwybrau Seiclo ardal Dolgellau


Llwybrau yng Nghoed y Brenin