trenau stêm
Yn ardal Dolgellau y mae rhai o reilffyrdd cul a threnau stêm gorau Cymru. Mae taith ar y trên yn ffordd ardderchog o fwynhau rhai o olygfeydd gorau Prydain. Mae rhai o'r rheilffyrdd bach hyn yn eu lle ers ymhell dros ganrif. Mae rhywbeth rhamantus iawn am yr hen drenau stêm lliwgar, gloyw.
Gwaith gwreiddiol y rhan fwyaf ohonynt oedd cario llechi o'r chwareli i'r môr. Fodd bynnag, maen nhw i gyd yn wahanol ac yn cynnig blas unigryw ar yr oes o'r blaen. Mae'r ffaith bod y trenau'n fach ac yn symud yn araf yn rhoi awyrgylch arbennig i'w teithiau hamddenol. Beth am fynd am dro ar un neu fwy o Drenau Bach Arbennig Cymru. Gallwch chwilio am lein fach benodol wrth glicio isod.
Rheilffyrdd ardal Dolgellau