rhedeg
Mae ardal Dolgellau'n lle ardderchog ar gyfer rhedwyr, o'r bryniau moel i lonydd a llwybrau tawel y dyffrynnoedd. Cynhelir nifer o rasys yn ardal Dolgellau a gellir addasu'r llwybrau'n hawdd ar gyfer gwahanol lefelau.
Cynhelir ras enwocaf y dref, Ras y Gader, ers 1991. Mae'n dechrau ac yn gorffen y tu allan i'r Ganolfan Groeso ac mae'n golygu dringo i gopa Pen y Gadair, sy'n codi i uchder o 2930. Mae'r ffordd yn dipyn byrrach i rai sy'n dechrau ac yn gorffen ym maes parcio Tŷ Nant, uwchlaw Llyn Gwernan.
Mae Clwb Rotari Tywyn yn trefnu Ras yn erbyn y Trên. Mae'r cystadleuwyr yn rhedeg 14 milltir yn erbyn trên stêm ar hyd llwybr Lein Fach Tal-y-llyn sy'n rhedeg o Dywyn i Abergynolwyn ac yn ôl. Mae'r cwrs yn defnyddio ffyrdd cyhoeddus, lonydd bach, tir amaethyddol a thir pori garw. Yn aml, mae'r trên yn cydredeg â'r rhedwyr a gall ffrindiau a pherthnasau alw arnynt o'r cerbydau i'w hannog.
Ffurfiwyd Clwb Rhedeg Meirionnydd yn y dref yn 2006. Mae croeso i ymwelwyr yno bob nos Fercher. Mae'r clwb yn trefnu nifer o rasys trwy gydol y flwyddyn. Gwesty Siôr III yw man cychwyn a gorffen ras 10 milltir Llynpenmaen sy'n dilyn Llwybr Mawddach (hen reilffordd, wastad, ddi-draffig, a wyneb da arni). Gellir addasu'r ffordd yn ôl a blaen ar y cwrs hwn at anghenion unigol. Ras 5 milltir yw prif ras ffordd y dref sy'n rhan o Ffair Haf y Clwb Rotari. Mae'n dilyn lonydd tawel gwledig, gan ddechrau a gorffen ar y Marian Mawr, sef prif faes parcio'r dref.