hwylio
Gydag arfordir hardd a llynnoedd hyfryd, mae digon o gyfle i hwylio yn ardal Dolgellau.
Mae Llyn Tegid yn y Bala yn bedair milltir o hyd a milltir o led ac mae modd mwynhau diwrnod da o hwylio diogel yno. Mae gan y Bala glwb hwylio gyda chlwb-dy a chyfleusterau lansio a chlwb catarmaran. Mae'r ddau'n croesawu ymwelwyr ac yn cynnal cyrsiau i ddechreuwyr.
Gall clybiau hwylio y Bermo, Aberdyfi a Phorthmadog fod o ddiddordeb i hwylwyr profiadol neu rai sy'n mwynhau mentro'n bellach o'r lan. Mae Clwb Hwylio y Bala a'r Merioneth Yacht Club yn y Bermo yn ganolfannau hyfforddi yr RYA ac maent yn cynnig gwahanol gyrsiau, yn cynnwys rhai i blant. (Mae hyfforddiant cychod cyflym, yn cynnwys y Dystysgrif Gymhwysedd Ryngwladol, cychod cyflym, lefel 2, ar gael yn y Bermo). Ceir hyfforddiant ar y lan hefyd mewn gwahanol feysydd fel radio VHF a morlywio. Ewch i wefannau'r clybiau i gael gwybod rhagor.