cerdded
Mae Cader Idris (893 metr neu 2930 troedfedd) yn boblogaidd gan gerddwyr – ond fe welwch lai o lawer o bobl eraill yn cerdded yma nag a welwch ar yr Wyddfa. Mae dringo i'r copa'n dipyn o her ond mae'r golygfeydd yn wych. Bu ymwelwyr ers Oes Fictoria'n mwynhau'r golygfeydd hardd ac amrywiol sydd i'w gweld wrth gerdded Llwybr Clywedog, Llwybr Cynwch, Llwybr Newydd Cynwch a Llwybr y Panorama. Mae Llwybr Mawddach, ar ochr ddeheuol aber yr afon, yn un gwastad, ac arno wyneb da ac felly'n addas i deuluoedd. Efallai y byddai'n well gan gerddwyr profiadol fentro i uchelderau anial y Rhinog. Pan fydd cymylau'n gorchuddio'r copaon, mae'n werth ymweld â choedwig hynafol Coed y Brenin. Cewch ddilyn hen lwybrau'r gweithwyr i fwyngloddiau aur a chopr a gwylio'r rhaeadrau ym mherfeddion y goedwig yn taranu ar ôl glaw trwm (a geir yma o dro i dro!) Mae'r goedwig yn gynefin pwysig i lu o blanhigion a chreaduriaid (rhai ohonynt yn brin iawn). Ceir yma nifer o lwybrau trawiadol, cyfleusterau cyfeiriannu a llwybr daeareg 8km. Mae taflenni gwybodaeth i'w cael yng nghanolfan ymwelwyr Coed y Brenin ac mewn siopau lleol.
Gwelir mapiau unigol o lwybrau Coed y Brenin isod gyda chanllaw cynhwysfawr i'r holl lwybrau sydd yno ac mewn rhannau eraill o'r ardal.
Llwybrau cerdded ardal Dolgellau
Llwybrau a llefydd i'w gweld o gwmpas Coed y Brenin
Y Llwybr Mawddach