chwaraeon dŵr
Mae Canolfan Tryweryn, y Ganolfan Genedlaethol Dŵr Gwyn, yn y bryniau uwchlaw'r Bala, rhyw 20 milltir o Ddolgellau, yn cynnig nifer o weithgareddau cyffrous ac egnïol. Gan fod dŵr yn cael ei ryddhau i afon Tryweryn o gronfa ddŵr Llyn Celyn, cawn ddŵr gwyn yma yn aml pan fydd afonydd eraill bron yn sych. Ar ei symlaf, mae'r ganolfan yn cynnig teithiau rafftio a chyfle ar gyfer cychwyr hamdden. Mae hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi, ac yn cynnal nifer fawr o rasys a chystadlaethau dŵr gwyllt, slalom ac ati. Yn ogystal, cynhelir Gŵyl Hyfforddi Tryweryn, sy'n cynnwys sesiynau dŵr gwyn, cyrsiau hyfforddi, cystadlaethau a digwyddiadau gyda'r nos – uchafbwynt blwyddyn llawer o gychwyr!
Gan fod cynifer o draethau hir yn yr ardal, gall fod yn lle da ar gyfer syrffio caiacs. Ar ddiwrnod da fe welwch fflyd o gaiacwyr yn ymgodymu â'r tonnau (mae rhestr o'r mannau addas yn yr adran y môr a'i donnau). Os yw diwrnod hamddenol ar y dŵr yn fwy at eich dant, holwch am amserau'r llanw, a hwylio aber Mawddach, gan aros am ddiod yn nhafarn Siôr III tra bydd y llanw'n troi. Mae hon yn daith boblogaidd ymhlith canŵwyr cwch agored a chewch olygfeydd hyfryd.
Mae dau le poblogaidd gerllaw ar gyfer syrffwyr barcud. Mae Llyn Tegid, y Bala, yn bedair milltir o hyd a milltir o led a chewch ddiwrnod da o syrffio yno gyda golygfeydd ysblennydd a chyfleusterau da. I'r rhai mwy mentrus yn eich plith, mae modd syrffio gwynt neu syrffio barcud o Aberdyfi i Aberystwyth, aros am ddiod a dal y trên yn ôl!