Coed y Brenin
Coed y Brenin yw prif safle gweithgareddau awyr-agored Comisiwn Coedwigaeth Cymru.
Mae adeilad crwn y Ganolfan Ymwelwyr yn agored 7 diwrnod yr wythnos. Fe'i hagorwyd ym mis Awst 2007 ac mae wedi ennill nifer o wobrau oherwydd y cynllun arloesol a'i nodweddion "gwyrdd".
Cafodd y ganolfan a'i chyfleusterau eu cynllunio i fod yn hwylus i'r teulu cyfan gyda chaffi, toiled, cawodydd, ystafell gyfarfod, cyfleusterau llogi beiciau, mannau chwarae i blant a nifer o lwybrau cerdded a llwybrau beicio.
Mae'r llwybrau cerdded yn addas ar gyfer pobl o bob gallu. Ceir cyfres o lwybrau sy'n addas ar gyfer pobl mewn cadeiriau olwyn, wedi'u hadeiladu i safonau'r Fieldfare Trust a nifer o lwybrau mynydd garw sy'n treiddio i rannau mwyaf anghysbell y goedwig. Mae set o themâu wedi'u seilio ar yr amgylchedd naturiol a'r etifeddiaeth ddiwydiannol yn ddolen gyswllt gref rhwng yr holl lwybrau. Mae cyfle i bobl egnïol gymryd rhan mewn cyrsiau cyfeiriannu neu redeg ar lwybr arbennig.
Caiff Coed y Brenin ei gyfrif yn un o'r llefydd gorau ym Mhrydain ar gyfer beicio mynydd. Ceir yma nifer o lwybrau penodol, o lwybr i'r teulu cyfan ar hyd heolydd tawel y goedwig i lwybrau beicio mynydd cyffrous Y Tarw, y Bwystfil a Chefn y Ddraig. Mae'r holl lwybrau (gweler y map) yn dechrau ac yn gorffen yn y ganolfan ymwelwyr lle mae digon o le i barcio.
Os hoffech ragor o wybodaeth, ewch i wefan Comisiwn Coedwigaeth Cymru neu ffoniwch Geidwad y safle ar (01341) 440747. Isod, ceir fideo hyrwyddo byr ar gyfer Coed y Brenin a chewch wybodaeth am y llwybrau cerdded a'r llwybrau beicio ar y wefan hon trwy ddilyn y dolenni.
Os na welwch fideo isod, cliciwch yma i fynd yn syth i YouTube.