Taith y Crynwyr
Ym 1657, daeth George Fox, sefydlydd y Crynwyr (Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion) i Ddolgellau gan bregethu fod pawb â Goleuni Mewnol Duw ynddynt, a bod pawb â’r gallu i gyfathrebu yn uniongyrchol gyda Duw. Mae’r Crynwyr yn byw ac yn gweithio wrth gredu bod pob unigolyn yr un mor bwysig yng ngolwg Duw. Gwrthodai’r y Crynwyr dyngu llw, gan ddilyn dysgeidiaeth yr Iesu yn y Beibl. Daeth llawer o bobl yr ardal yn Grynwyr; aeth llawer i Bensilfania yn dilyn erlid ffyrnig. Mae’r daith hon yn dangos rhai llefydd yn yr ardal sydd yn gysylltiedig â’r Crynwyr, ac mae’n rhoi’r cyfle i ymweld â golygfeydd godidog yr ardal (Map: Explorer OL23).
Dolgellau: Amgueddfa’r Crynwyr: yng Nghanolfan Croeso Tŷ Meirion, Sgwâr Eldon, Dolgellau. Gwyliwch fideo hanes Crynwyr yr ardal a’r ymfudo i Bensilfania. Defnyddiwch y sgrîn cyffwrdd i ddysgu mwy.
Bryn Mawr, (OS 728166) cartref Roland Ellis: trowch i fyny Ffordd y Gader; mewn milltir trowch i’r chwith ar lwybr beicio 21. Bron filltir ymhellach ymlaen arhoswch cyn Fferm Esgeiriau a cherddwch i fyny’r llwybr caregiog ar y dde hyd at giat y tŷ. Aeth Rowland Ellis, a gafodd ei erlid yn ffyrnig oherwydd ei ffydd, i Bensilfania efo’i gyfaill Ellis Pugh, Brithdir, awdur “Annerch i’r Cymru”, y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei gyhoeddi yn yr Unol Daleithau.
Dewisbren Uchaf (OS752170) cartref Dorti Owen, Capel Tabor (OS 754174) a adeiladwyd fel tŷ cwrdd y Crynwyr, Tyddyn y Garreg, (OS 756176) tŷ cwrdd y Crynwyr am dros ganrif, a hefyd mynwent y Crynwyr: cerddwyr a beicwyr – dilynwch llwybr beicio 21; ceir dilynwch y ffordd o Bryn Mawr am ddwy filltir, gan droi i lawr i’r chwith at y gyffordd T; trowch i’r dde i fyny’r allt (llwybr beicio 8) a pharcio wrth ymyl y blwch ffôn wrth Gapel Tabor. Cerddwch 50 llath ymhellach, trowch i’r dde a chroeswch y gamfa; deg munud o gerdded ac mae adfeilion Dewisbren ar y dde. Mae’r golygfeydd yn odidog. Cerddodd Dorti Owen o’r fan hon i bregethu drwy Ganolbarth Cymru, a chanddi hi roedd yr ysbrydoliaeth i adeiladu’r tŷ cwrdd. I gyrraedd Tyddyn y Garreg, trowch lawr i’r chwith wrth y blwch ffôn, cerddwch 350 llath, trowch i’r chwith, wedyn i’r dde. Cynhaliwyd cyrddau’r Crynwyr yma, gan gynnwys Cyfarfod Blynyddol i Gymru ym 1685. Rhoddodd Lewis Owen y tir ar gyfer y fynwent, sydd bellach yn eiddo i’r Annibynwyr. Edrychwch ar y golygfeydd!
Dolgun Uchaf, (OS747183) Ffwrnais Dolgun, (OS752188) Dolserau: (dwy filltir o Dyddyn y Garreg): trowch i’r chwith am yr A470, i’r chwith ar y ffordd hon, ac i’r dde cyn yr orsaf betrol: Dolgun, llys o’r canol oesoedd yw’r tŷ cyntaf ar y dde. Mae’r ffwrnais a Dolserau efo’i gilydd, ½ milltir ymhellach ymlaen ar y chwith. Cynllunwyd y ffwrnais gan Abraham Darby, Coalbrookdale ym 1713. Dim ond sylfeini Dolserau sydd yn weddill – cartref y Crynwyr Robert a Jane Owen, a ymfudodd i Bensilfania ym 1697 efo’u mab, y meddyg Gruffydd.
Llwyngwril: Llwyndu, (OS 594101) cartref teulu Humphrey, Mynwent Bryn Tallwyn: dilynwch yr A493 i Lwyngwril. Mae Llwyndu, cartref Owen Samuel a John Humphrey, ar y chwith. Roeddynt yn bwysig iawn wrth ledaenu Crynwriaeth yn yr ardal, ac hefyd yn sefydlu Pensilfania. Mae Bryn Tallwyn ar y dde. Rhoddwyd y tir fel mynwent i’r Crynwyr gan Owen Humphrey, Llwyndu, mwy na thebyg ym 1664.
Mwynhewch eich taith; cymerwch ofal ar y ffordd! Cofiwch mai chi eich hun sydd yn gyfrifol am eich diogelwch. Perchnogion preifat sydd berchen yr adeiladau a’r tir ar y daith. Parchwch waith y ffermwyr; mae defaid ac wyn angen llonnydd - cadwch bob ci ar dennyn a phlant dan reolaeth. Caewch bob giât os gwelwch yn dda. Rhaid gwylio plant ar y ffordd ac yn enwedig yn Llwyngwril yn croesi rheilffordd ble mae trenau yn dal i redeg; ni ddylent ddringo ar waliau nac adfeiliorn.