parc dolgellau
Ers dwy flynedd, mae grwp cymunedol lleol wedi archwilio dulliau
o wella parc y dref, a fu ar un pryd yn un o nodweddion arbennig
Dolgellau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r parc wedi dioddef
o brinder arian a diffyg gwaith cynnal a chadw ac mae angen trwsio
llawer o'r cyfleusterau neu maent wedi cyrraedd diwedd eu hoes.
Mae project 'Parc Dolgellau' yn cynnwys gwirfoddolwyr o'r gymuned
leol a deimlai'n gryf bod angen gwneud rhywbeth i ddarparu cyfleoedd
pellach ar gyfer amser hamdden plant, pobl ifanc a'r gymuned ehangach
drwy wella cyfleusterau yn y parc.
Mae'r project wedi cyrraedd rhestr fer Cronfa Fawr y Loteri Miliynau'r Bobl
ynghyd a 7 o brojectau eraill yng Nghymru, ac ar nos Fawrth 27ain Tachwedd, bydd Dolgellau yn brwydro yn erbyn achos da arall ar Newyddion Gyda'r Nos ITV Cymru mewn ymgais i ennill cefnogaeth y cyhoedd drwy bleidlais ffôn.
Byddai ennill Miliynau'r Bobl yn rhoi cychwyn da i'n gweithgareddau codi arian a'n galluogi o'r diwedd i ddechrau'r gwaith angenrheidiol ar y cae chwarae. Os na fyddwn yn llwyddiannus, efallai y bydd rhaid cau'r parc, a byddai hyn yn golled fawr i'r dref.