partneriaeth dolgellau
Sefydlwyd Partneriaeth Dolgellau yn 2001 yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yn y dref. Ers hynny, bu'n gyfrifol am gasglu syniadau a gweithredu prosiectau i wella amgylchedd ac economi Dolgellau a'r cylch.
Mae gwaith y Bartneriaeth yn cynnwys Dolgellau, Brithdir, Llanelltyd, Ganllwyd, Rhydymain, Arthog a Llanfachreth. Mae'r aelodau'n wirfoddolwyr sy'n cynrychioli busnesau, siopau a mudiadau lleol ynghyd ag aelodau o Gyngor Gwynedd, Cyngor Tref Dolgellau a chynghorau cymuned yr ardal.
Nod y Bartneriath yw cynnal prosiectau a fydd yn helpu i:
• Wella cyfleoedd yn y sector adwerthu
• Datblygu twristiaeth o ansawdd da yn yr ardal
• Gwneud i'r dref edrych yn well a bod yn fwy atyniadol
• Creu gwaith yn yr ardal
• Creu cyfleoedd hamdden yn yr ardal
• Diolgelu ysbryd cymunedol a chymwynasgar yr ardal
• Gwella'r amgylcheddau naturiol ac adeiledig
• Gwella cysylltiadau a gwasanaethau trafnidiaeth
• Datblygu Dolgellau i fod yn ‘Ganolfan Seiclo Cymru’
• Cefnogi'r sector amaethyddol
Dyma rai o'r prosiectau:
Gwefan Darganfod Dolgellau
Gwefan wybodaeth ddwyieithog sy'n cael ei datblygu gan y grŵp twristiaeth lleol i hyrwyddo Dolgellau, annog twristiaeth a chynnig gwybodaeth werthfawr am yr ardal i'r gymuned leol.
Marchnad Ffermwyr Dolgellau
Yn ogystal â denu pobl leol, mae'r farchnad yn boblogaidd iawn gan ymwelwyr ac mae wedi helpu Dolgellau i ennill enw da fel cyrchfan twristiaeth bwyd.
Taith y Crynwyr
Mae gwaith paratoi'r prosiect hwn yn tynnu at y terfyn. Bydd yn arwain pobl o gwmpas cartrefi, mynwentydd a lleoedd arwyddocaol eraill oedd yn gysylltiedig â'r Crynwyr yn Nolgellau a Llwyngwril. Codwyd hysbysfyrddau mewn mannau allweddol ac mae map a thaflen yn cael eu paratoi i hyrwyddo'r daith arbennig hon.
Parc Dolgellau
Dyma un o brosiectau mwyaf poblogaidd y dref. Cafodd Parc Dolgellau lawer o sylw pan lwyddwyd i sicrhau swm sylweddol o arian gan Loteri'r Bobl i ddatblygu maes chwarae i blant. Er bod llawer i'w wneud o hyd i wireddu'r freuddwyd, gobeithio y bydd y gwaith adeiladu'n dechrau cyn hir.
Coed Ffynnon Fair
Mae'r prosiect hwn sydd newydd ei gwbwlhau wedi galluogi Coed Ffynnon Fair, i'r de o'r dref, i gael eu prynu a'u gwella er budd y gymuned a'u diogelu rhag datblygiadau posib yn y dyfodol. Mae gwaith wedi ei wneud i amddiffyn y coed, adfer ffiniau a gwella llwybrau yn ogystal ag adnewyddu'r ffynnon oedd unwaith yn cyflenwi dŵr y dref.