Explore Southern Snowdonia

gardd bywyd gwyllt felin uchaf

Felin Uchaf Wildlife Garden Mae gardd bywyd gwyllt Felin Uchaf yn brosiect cymunedol a gaiff ei redeg gan wirfoddolwyr a'i ariannu gan sefydliadau lleol gan gynnwys Mantell Gwynedd, y Co-operative Stores, Banc y NatWest ac Ymddiriedolaeth Peter Saunders Trust.

Am rent hedyn pupur, mae'r grŵp rheoli wedi cymryd darn o dir gwastraff wrth ymyl yr ysbyty ac maent yn bwriadu ei droi'n ardd ar gyfer bywyd gwyllt. Gobeithir, ymhen amser, y bydd yr ardd yn cael ei defnyddio gan ysgolion lleol ar gyfer gwersi, gyda phlant yn cael cyfle i ofalu am eu darn tir eu hunain, gan ddysgu am blannu ac adnabod blodau ac y byddant yn derbyn tystysgrifau cymhwysedd am eu hymdrechion.

Yn y cyfamser, mae llawer o waith yn cael ei wneud i glirio a pharatoi'r tir, codi ffensys a darparu cartrefi ar gyfer adar a chreaduriaid eraill sy'n debygol o setlo yno. Gobeithio y bydd hyn yn cynnwys ail-gyflwyno draenogiaid i'r gwyllt ar ôl gwella o anafiadau ond, er mwyn gwneud hyn, bydd yn rhaid i'r RSPCA, sy'n rhedeg y rhaglen, benderfynu bod yr ardal yn gallu eu cynnal.

Mae'r grŵp wrthi'n chwilio am arian er mwyn ffensio a bu'n trafod gyda'r Comisiwn Coedwigaeth pa fath o goed a phlanhigion y dylid eu plannu. Mae'n hollbwysig bod y rhai a ddewisir nid yn unig yn addas fel bwyd i adar ac anifeiliaid eraill ond yn ddeniadol i drychfilod hefyd. Gan fod yr ardd i'w gweld o'r ysbyty, mae plannu gardd yn llawn blodau gwyllt i ddenu ieir bach yr haf nid yn unig yn help i beillio'r planhigion ond hefyd yn cynnig arddangosfa naturiol y gall y cleifion ei mwynhau.

Cefnogir y prosiect gan yr heddlu lleol, y gwasanaeth tân, cyngor y dref a Phartneriaeth Dolgellau, ond gall unrhyw un, hen neu ifanc ymwneud â'r prosiect, naill ai drwy roi eu hamser i weithio yn yr ardd neu drwy roi arian i brynu planhigion a defnyddiau. Ymhen amser, gobeithir y bydd yr ardd yn hafan heddychlon, yn agored i unrhyw un fyddai'n dymuno mwynhau ei harddwch a'i symlrwydd. Bydd yn lle delfrydol i beintio, tynnu lluniau neu, yn syml, i fwynhau natur.