blas...
Dewch i Nabod Eryri – a'i Bwyd
Blas Dolgellau – 15-17 Hydref, 2010
Croeso i ‘Blas Dolgellau’, penwythnos o ddigwyddiadau’n cynnwys bwyd lleol ardderchog a golygfeydd trawiadol Eryri.
Os ydych yn byw yn yr ardal, bydd yn gyfle i ddarganfod bwydydd a blasau newydd mewn llefydd annisgwyl. Bydd gwestai bach a mawr a hyd yn oed iwrt yn agor eu drysau i’r cyhoedd. Cewch brofi te prynhawn ym mhlasty Caerynwch a thapas Cymreig yn y coleg arlwyo.
Bydd gan fwytai fwydlenni arbennig ac mae gweithgareddau i’r teulu cyfan – o goginio, i wenyna a helfa bwydydd gwyllt.
Canolbwynt y penwythnos yw Marchnad Ffermwyr Dolgellau a fydd yn fwy nag arfer a Ffair Fasnach ar agor i bawb a fydd yn ffenest siop i gynhyrchwyr bwydydd arbenigol o Ogledd a Chanolbarth Cymru.
Mae i Ddolgellau gyfoeth o hanes o golygfeydd penigamp – lle delfrydol i gerdded a beicio gyda safleodd picnic bythgofiadwy.
Dewch i fwynhau gwledd o weithgareddau.