telerau ac amodau

1. HAWLFRAINT DDEALLUSOL
Mae'r hawlfraint a phob hawl arall ar y wefan hon yn eiddo i Darganfod Dolgellau, neu mae'r defnydd wedi'i gynnwys gyda chaniatâd perchennog yr hawliau. Fel ymwelydd â'r wefan, cewch gopïo defnydd ar gyfer eich dibenion preifat neu ddomestig eich hunan, ond mae gwaharddiad llwyr ar gopïo at unrhyw ddefnydd masnachol neu fusnes.

2. Y CYNNWYS
Rydym yn cadw'r hawl i wrthod unrhyw gais i gynnwys defnydd ar y wefan hon ac mae gennym hawl lwyr i dynnu unrhyw ddefnydd oddi arni. Gofynnir i chi beidio ag anfon unrhyw beth sy'n cynnwys defnydd sy'n addas i oedolion yn unig, defnydd yn ymwneud â gamblo, na defnydd hiliol, rhywiaethol na chas.

3. YMWRTHOD AG ATEBOLRWYDD
Rydym yn gwneud ymdrechion rhesymol i sicrhau bod y data ar y wefan hon yn gywir ac rydym yn cywiro unrhyw wallau neu hepgoriadau cyn gynted ag sy'n ymarferol. Nid ydym yn monitro, yn gwirio nac yn cadarnhau gwybodaeth a gyflwynir gan drydydd partïon a dylech fod yn ymwybodol y gall y wybodaeth honno fod yn anghywir, yn anghyflawn neu'n hen.

Er bod Darganfod Dolgellau'n gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a gyhoeddir ar www.darganfoddolgellau.com yn gywir, ni ellir ein dal yn gyfrifol am unrhyw wallau, hepgoriadau na newidiadau sy'n digwydd ar ôl llwytho'r wybodaeth. Canllawiau yn unig yw'r argymhellion, y safbwyntiau a fynegir a'r prisiau. Mae'r disgrifiadau personol wedi'u hysgrifennu yn ddidwyll. Barn bersonol ydynt ac nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am y disgrifiadau a roddir. Ein barn ni yw pob barn a fynegir a gall barn pobl eraill fod yn wahanol.

Nid ydym yn asiant ac nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am eich ymwneud chi â busnesau/clybiau. Y busnesau/clybiau sydd wedi'u cynnwys ar darganfoddolgellau.com sy'n gyfrifol am roi unrhyw wybodaeth y gofynnwch amdani i chi. Os bydd arnoch angen rhywbeth mwy na'r hyn a ddangosir ar y wefan hon, dylech gysylltu'n uniongyrchol â'r busnes/clwb.

4. YMWRTHOD Â CHYFRIFOLDEB AM NWYDDAU A GWASANAETHAU CYFLENWYR
Rydym yn hyrwyddo nifer o gyflenwyr ar darganfoddolgellau.com ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am unrhyw nwyddau neu wasanaethau a ddarperir gan y cyflenwyr hyn. Dylech ofalu eich bod yn cytuno â thelerau ac amodau'r cyflenwyr eu hunain cyn masnachu gyda nhw.

5. DATA A RODDIR GAN DDEFNYDDWYR
Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am ddata a roddir gan unrhyw ddefnyddiwr i'w dangos ar darganfoddolgellau.com. Os rhoddwch ddata i'w dangos ar y wefan, chi sy'n gyfrifol am sicrhau eu bod yn gywir, yn gyflawn, yn cael eu diweddaru pan fydd angen ac am sicrhau nad yw'n anghywir, yn ddifenwol, yn anweddus, yn sarhaus, yn annerbyniol nac yn torri unrhyw gyfreithiau perthnasol na hawliau pobl eraill. Rydych yn gwarantu eich bod wedi cymryd pob gofal rhesymol i sicrhau nad yw unrhyw ddata a lwythwch neu a roddwch yn cynnwys firysau na dim arall a allai lygru neu ddinistrio unrhyw ran o'r wefan nac unrhyw dechnoleg arall. Rydym yn cadw'r hawl (heb gyfyngu ar ein hawliau i geisio ffyrdd eraill o wella'r sefyllfa) i dynnu defnydd annerbyniol a roddir ar darganfoddolgellau.com os credwn ei fod yn camddefnyddio'r wefan neu os yw'n niweidiol mewn ffordd arall i ddefnyddwyr y wefan. Byddwch yn ein hindemnio ac yn ein rhyddarbed rhag unrhyw hawliad neu archeb, yn cynnwys ffioedd cyfreithiol rhesymol, a wneir gan unrhyw drydydd parti yn ein herbyn ni (yn cynnwys, heb gyfyngiad, golled economaidd) o ganlyniad i'ch methiant chi i gadw unrhyw un neu fwy o delerau'r amod hwn, neu'n codi o hynny.

6. EIN POLISI PREIFATRWYDD
Mae www.darganfoddolgellau.com yn defnyddio cwcis i ganfod pwy ydych tra byddwch yn pori'r wefan. Mae cwcis yn galluogi'n system mewngofnodi ni i weithio'n iawn. Rydym wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd. Byddwn yn cadw at y gyfraith wrth ddefnyddio'ch manylion chi (yn unol â Deddf Diogelu Data 1998). Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch er mwyn prosesu'ch cais i gael eich cynnwys yn ein rhestrau postio ac er mwyn rhoi'r gwasanaeth gorau posibl i chi. Ni fyddwn yn anfon negeseuon e-bost atoch os na fyddwch wedi rhoi caniatâd i ni. Cewch wrthod unrhyw e-bost marchnata oddi wrthym ni neu oddi wrth fasnachwr arall. Pan fyddwch yn cofrestru ar y wefan, dim ond am eich enw a'ch cyfeiriad e-bost y byddwn yn gofyn. Cewch roi rhagor o wybodaeth os dymunwch. Caiff gwybodaeth bersonol amdanoch ei dal yn unol â'n polisi diogelwch mewnol. Os byddwn yn bwriadu trosglwyddo'ch manylion y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) – sy'n annhebygol iawn – byddwn yn gofyn am eich caniatâd. Os bydd gennych ryw gwestiwn/sylw am unrhyw un o'r materion a godir yma, gallwch anfon neges e-bost atom yn admin@discoverdolgellau.com.